Ocean Job Board

Seafish
A Welsh translation of this job vacancy can be found towards the bottom of the page.
About Seafish
Seafish is here to give the UK seafood sector the support it needs to thrive. Our work makes a huge difference. We collaborate with a wide range of partners – from seafood businesses and trade bodies to government, regulators and environmental organisations – and we engage in everything from research to campaigns, insight and training.
About the Industry Engagement Team
The Industry Engagement team are proactive ambassadors for Seafish and the local seafood industry, leading and supporting activities that drive sustainable growth at a local, regional and national level. We act as a primary contact for seafood business across the supply chain, connecting people to the services of most benefit to them and seeking to understand evolving industry needs. We provide valued support to industry more widely by delivering projects, fostering relationships, and collaborating with stakeholders to maximise the reach of Seafish support and drive positive change.
How we work
At Seafish we have a trust and performance culture. Performance driven results mean having autonomy and accountability in equal parts, so you can work in the way that’s most effective for you, as long as you deliver your work to the expected standards. You’ll have a personal development plan that outlines the objectives and competencies for your role and learning and development goals. You’ll have regular catch-ups with your line manager, along with mid-year and end of year reviews to discuss your work and performance.
Job Purpose
This role is responsible for supporting the seafood industry in Wales by leading and advancing initiatives that benefit the seafood supply chain. This is achieved through building and maintaining strong relationships with seafood businesses, as well as key stakeholders such as the Welsh Government, other government bodies, public sector partner organisations and academic institutions. By fostering these connections, the role aims to expand the reach of our support and position Seafish as a valuable industry contributor, driving economic growth and adding value across priority work streams aligned to our Corporate Plan.
Special features of the role
Full details of the responsibilities, relationships, skills and experience required can be found in the full job description available to download via the link below:
Every role is Seafish is linked to our bespoke competency framework. The competency levels for this role are:
All roles within Seafish are classified and have defined salary bands. This role sits within Job Family C in our pay structure, and the starting salary is at £41,000. A new member’s appointment on the pay structure is dependent on the experience they bring to the role when they start. New candidates normally start at the lower end of the range unless they can demonstrate considerable experience in the requirements of the role.
Additional benefits include:
To apply for the post, you should email your application to recruitment@seafish.co.uk. Please include “Industry Engagement Manager Wales” in the subject line of your email.
Your application should include:
The deadline for applications is 6th May 2025.
Candidates invited to interview will receive at least one week's notice of the proposed interview date to allow for adequate preparation. At this stage, you may be asked to complete a short task prior to the interview and answer competency-based questions during an online interview. Our selection process may include a second stage in-person interview.
If you need any accommodations or adjustments during our recruitment and selection process, please reach out to us.
While we welcome applications from candidates around the world, applicants must have the legal right to work in the UK.
For any queries about the job description or the salary and benefits on offer, please email recruitment@seafish.co.uk.
Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd â sgiliau ymgysylltu rhagorol a phrofiad o’r diwydiant i gynnig cymorth gwerthfawr i’r sector bwyd môr ledled Cymru.
Mae Seafish yma i roi’r cymorth sydd ei angen ar sector bwyd môr y DU i ffynnu. Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Rydyn ni’n cydweithio ag ystod eang o bartneriaid – o fusnesau bwyd môr a chyrff masnach i’r llywodraeth, rheoleiddwyr a sefydliadau amgylcheddol – ac rydyn ni’n ymwneud â phopeth o ymchwil i ymgyrchoedd, dealltwriaeth a hyfforddiant.
Mae’r Tîm Ymgysylltu â’r Diwydiant yn llysgenhadon rhagweithiol ar gyfer Seafish a’r diwydiant bwyd môr lleol, gan arwain a chefnogi gweithgareddau sy’n ysgogi twf cynaliadwy ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Rydyn ni’n gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer busnesau bwyd môr ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gysylltu pobl â’r gwasanaethau sydd fwyaf buddiol iddyn nhw a cheisio deall anghenion esblygol y diwydiant. Rydyn ni’n cynnig cymorth gwerthfawr i’r diwydiant yn ehangach drwy gynnal prosiectau, meithrin perthnasoedd, a chydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau bod cymorth Seafish yn cyrraedd cymaint â phosibl ac yn ysgogi newid cadarnhaol.
Yn Seafish, mae gennym ni ddiwylliant o ymddiriedaeth a pherfformiad. Mae canlyniadau a yrrir gan berfformiad yn golygu cael yr un faint o ymreolaeth ac atebolrwydd, felly gallwch weithio yn y ffordd sydd fwyaf effeithiol i chi, cyn belled â’ch bod yn cyflawni’ch gwaith i’r safonau disgwyliedig. Bydd gennych gynllun datblygiad personol sy’n amlinellu’r amcanion a’r cymwyseddau ar gyfer eich swydd a’ch nodau o ran dysgu a datblygu. Byddwch yn cael sesiynau ‘dal i fyny’ rheolaidd gyda’ch rheolwr llinell, ynghyd ag adolygiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn i drafod eich gwaith a’ch perfformiad.
Mae’r swydd hon yn gyfrifol am gefnogi’r diwydiant bwyd môr yng Nghymru drwy arwain a hyrwyddo mentrau sydd o fudd i gadwyn gyflenwi’r sector bwyd môr. Caiff hyn ei gyflawni drwy feithrin a chynnal cysylltiadau cryf â busnesau bwyd môr, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol megis Llywodraeth Cymru, cyrff eraill y Llywodraeth, sefydliadau partner yn y sector cyhoeddus, a sefydliadau academaidd. Trwy feithrin y cysylltiadau hyn, nod y swydd yw ehangu cyrhaeddiad ein cymorth a gwneud Seafish yn gyfrannwr gwerthfawr i’r diwydiant. Byddwch hefyd yn ysgogi twf economaidd ac yn ychwanegu gwerth ar draws ffrydiau gwaith a flaenoriaethir sy’n cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol.
Nodweddion arbennig y swydd
Mae manylion llawn y cyfrifoldebau, perthnasoedd, sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i’w gweld yn y disgrifiad swydd llawn yma:
Mae pob swydd yn Seafish yn gysylltiedig â’n fframwaith cymhwysedd pwrpasol. Y lefelau cymhwysedd ar gyfer y swydd hon yw:
Mae pob swydd yn Seafish wedi’i dosbarthu ac mae ganddyn nhw fandiau cyflog diffiniedig. Mae’r swydd hon yn perthyn i Deulu Swydd C yn ein strwythur tâl, a’r cyflog cychwynnol yw £41,000. Mae penodiad aelod newydd ar y strwythur tâl yn dibynnu ar ei brofiad pan fydd yn dechrau yn y swydd. Mae ymgeiswyr newydd fel arfer yn dechrau ar ben isaf yr ystod, oni bai eu bod yn gallu dangos cryn brofiad o gyflawni gofynion y swydd.
Ymhlith y buddion ychwanegol mae:
I wneud cais am y swydd, dylech e-bostio eich cais at recruitment@seafish.co.uk. Cofiwch nodi “Rheolwr Ymgysylltu â’r Diwydiant – Cymru” yn deitl ar eich e-bost.
Dylai eich cais gynnwys:
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 6 Mai 2025.
Bydd ymgeiswyr a gaiff eu gwahodd i gyfweliad yn cael eu rhybuddio o leiaf wythnos ymlaen llaw o ddyddiad arfaethedig y cyfweliad er mwyn caniatáu digon o amser iddyn nhw baratoi. Ar y cam hwn, efallai y byddwn yn gofyn i chi gwblhau tasg fer cyn y cyfweliad ac ateb cwestiynau yn seiliedig ar eich cymhwysedd mewn cyfweliad ar-lein. Bydd ein proses ddethol yn cynnwys ail gyfweliad a gaiff ei gynnal yn y cnawd.
Os oes angen unrhyw lety neu addasiadau arnoch yn ystod ein proses recriwtio a dethol, cysylltwch â ni.
Er ein bod yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr ledled y byd, rhaid bod gan ymgeiswyr yr hawl gyfreithiol i weithio yn y DU.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y disgrifiad swydd, neu’r cyflog a’r buddion sydd ar gael, e-bostiwch recruitment@seafish.co.uk.